SL(6)112 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 5) 2021

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 5) 2021 (“y Rheoliadau”) yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (“Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”). Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, a’r rheoliadau a wnaed oddi tani, yn darparu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelu iechyd yng Nghymru a Lloegr, ac fe wneir y Rheoliadau drwy ddibynnu ar y pwerau yn adrannau 45B a 45P(2) o’r Ddeddf honno.     

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) (“gwledydd ar y rhestr goch”) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.          

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn dileu yr holl wledydd o’r rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae rheoliad 12E yn gymwys iddynt.  Mae pob gwlad yn cael ei thynnu oddi ar y rhestr goch mewn ymateb i’r ffaith bod trosglwyddiad cymunedol Omicron nawr yn eang yn y DU ac yn y gwledydd nad ydynt ar y rhestr goch.  Fodd bynnag, er bod y rhestr goch nawr yn wag, bydd yn cael ei chadw yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i hwyluso ymateb cyflym i amrywiolion sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr.

Mae Rheoliad 3 o’r Rheoliadau yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i sicrhau bod y wybodaeth y mae’n rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr sy’n teithio i’r DU o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn gyson ledled y DU.

Daeth y newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau i rym o 04:00 ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn fod y rheol 21 diwrnod wedi’i thorri (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a nodwn yr esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd dyddiedig 14 Rhagfyr 2021.  Yn benodol, nodwn y canlynol yn y llythyr:

Drwy beidio â chadw at y confensiwn 21 diwrnod gall y Rheoliadau hyn ddod i rym ar y cyfle cynharaf a pharhau â’r dull pedair gwlad o ymdrin â theithio rhyngwladol; oherwydd y dystiolaeth newidiol ar y risg mewn perthynas â’r afiechyd hwn ystyrir bod hyn yn angenrheidiol ac yn gam y gellir ei gyfiawnhau yn yr achos hwn.

Nodwn hefyd fod y llythyr yn cyfeirio at dorri adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, sy’n ei gwneud yn ofynnol i offeryn gael ei osod cyn iddo ddod i rym, ond os nad yw hynny’n digwydd, bydd angen gwneud y canlynol:

… notification shall forthwith be sent … drawing attention to the fact that copies of the instrument have yet to be laid … and explaining why such copies were not so laid before the instrument came into operation.

Er bod y llythyr yn nodi na chydymffurfiwyd ag adran 4(1), nid yw’n nodi’n benodol y rheswm dros dorri’r adran honno, fel sy’n ofynnol.  Fodd bynnag, ar yr achlysur hwn, rydym yn darllen bod paragraff olaf ond un y llythyr, sy’n nodi’r rheswm dros dorri’r rheol 21 diwrnod, yn esbonio’r rheswm dros dorri adran 4(1) hefyd.  Fodd bynnag, yn y dyfodol, dylid nodi’r rheswm dros dorri adran 4(1) yn y llythyr priodol sy’n cyd-fynd â’r offeryn dan sylw.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Nid yw’r diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn newid y ffaith bod y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; mae’r Llywodraeth o’r farn y gellir eu cyfiawnhau at ddiben atal lledaeniad clefydau heintus a/neu y caniateir ymyriad ar y sail ei fod yn anelu at gyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth o’r farn hefyd eu bod yn gymesur.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na chafwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

O ystyried y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd cyhoeddus ar fyrder, nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Rhagfyr 2021